Cliciwch yma ar gyfer safwe Aelodau Cliciwch yma ar gyfer safwe Oedolion Cliciwch yma ar gyfer safwe Ymwelwyr


  
Croeso
Beth yw Rygarug?

 

Dyma rhestr o'r tiwtoriaid:-
 

Gweithgaredd
Rhieni

Tiwtoriaid
Ffurflen Cysylltu
Ffurflen Gofrestru
Lawrlwytho
Ein Safwe

Gwyrdd
– mwy am y sioe

 

  Robin Williams – Aml-gyfrwng
Pennaeth Ysgol Gynradd Llanrug ydi Mr Robin Williams. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cyfrifiaduron a gwybodaeth am ystod eang o feddalwedd ar gyfer creu effeithiau gweledol.

Dafydd Roberts - Aml-gyfrwng
Mae gan Dafydd flynyddoedd o brofiad fel cyfarwyddwr a chynyrchydd rhaglenni teledu, rhaglenni radio a ffilmiau corfforaethol. Eleni dechreuodd swydd newydd fel Reolwr Gyfarwydd cwmni Recordiau Sain.

Sorry, your browser doesn't support Java(tm).

 


Ynyr Roberts – Aml Gyfrwng
Mae Ynyr yn byw rhwng Llanrug a Phenisarwaun, ac yn gweithio fel dylunydd. Mae yn aelod o'r grwpiau pop Cymraeg; 'brigyn' ac 'epitaff' ac yn cyfansoddi a recordio caneuon ar gyfer llawer o artistiaid eraill sydd yn canu yng nghymraeg. Mae'n defnyddio cyfrifiaduron 'apple mac' i wneud ei waith cerddorol a'r gwaith dylunio.

Gaynor Elis-Williams - Drama Uwchradd
‘Ffrangeg yw fy mhwnc ac ‘rwyf wedi bod yn dysgu yng Nghaernarfon ers dros ugain mlynedd ac felly ‘rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle yma i fod yn diwtor drama gyda Rygarug ! Mae fy niddordeb mewn actio yn mynd yn ôl i’m mhlentyndod pan fyddwn i, genod drws nesa,’ mrawd a’m chwaer yn ysgrifennu sgriptiau bychain bob gwyliau ysgol a’u perfformio nhw o flaen ein rhieni a’n cymdogion. Ers symud i Fethesda yn 1985, ‘rwyf wedi cymryd rhan mewn cynyrchiadau niferus gyda chwmni drama Llechan Las. ‘Rydwi’n hoff iawn o weithio ar sgript drwy drafod efo aelodau Rygarug. Mae ganddynt syniadau ardderchog ac ‘rydym yn cael llawer o hwyl!

Ffion Hâf Jones – Drama Cynradd
Mae Ffion yn dod o Bontnewydd ger Caernarfon, ac mae hi yn derbyn profiad arbennig o fod yn Diwtor Drama i griw o blant bywiog Rygarug.
‘Mae’r maes perfformio a chelfyddyd wedi apelio ataf ers yn blentyn, yng nghlwm ag agweddau cyfryngol. O ddilyn fy niddordeb brwd yn y diwydiant, cefais y fraint o ennill gradd BA mewn Astudiaethau Cynhyrchu a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru Bangor yn 2004. Yr wyf bellach yn ddigon ffodus i ddysgu Drama, perfformio ac actio i aelodau cynradd Rygarug. Mae’r sesiynau hwyliog hyn yn galluogi i finnau adael y plentyn egniol tu fewn i mi ddod allan am ychydig oriau’r wythnos !
Diddorol yw cael mentro i mewn i’w bywyd hyd a lledrith nhw, gan hefyd parhau â fy ngyrfa. Braf yw gweld plentyn yn hapus - yn enwedig os ydych yn cael chwarae rhan yn ei hapusrwydd.'

Helen McGrary - Dawns
Mae Helen yn dod o Langollen ac yn byw yn Llandegfan, Sir Fôn. Tiwtor Dawns Salsa yw hi, ac mae ganddi ddosbarthiadau yn Llangefni a Llandudno. Yn ogystal â sesiwn ym Mangor efo pobl gydag anableddau. A’r hyn o bryd mae

 
 

Cliciwch yma ar gyfer safwe Cyngor Celfyddydau Cymru

Cliciwch yma ar gyfer safwe Mantell Gwynedd

Cliciwch yma ar gyfer safwe Cynulliad Cymru